Perfformio'r Genedl: Ar Drywydd Hywel Teifi Edwards

Perfformio'r Genedl: Ar Drywydd Hywel Teifi Edwards

by Anwen Jones

NOOK Book(eBook)

$10.49 $12.32 Save 15% Current price is $10.49, Original price is $12.32. You Save 15%.

Available on Compatible NOOK Devices and the free NOOK Apps.
WANT A NOOK?  Explore Now
LEND ME® See Details

Overview

Mae Perfformio’r Genedl yn gyfrol sy’n cloriannu a chydnabod cyfraniad Hywel Teifi Edwards i’r broses bwysig o ddiffinio anian ac athrylith perfformiadol cenedl y Cymry. Dyma ymgais arloesol i ddathlu cyfraniad Edwards i faes nas cloriannir yn benodol mewn un cyfraniad canolog ganddo, ond sydd yn brigo i’r wyneb drwyddi draw mewn ystod eang o’i weithiau unigol. Archwilir nifer o agweddau gwahanol ar waith y gellid ei uno o dan bennawd cyffredinol – sef astudiaeth o’r perfformiadol yng nghyd-destun twf cysyniad o hunaniaeth genedlaethol Cymru, o’r ddeunawfed ganrif hyd at y presennol. Mae’r gyfrol yn canoli ar themâu amrywiol yng ngwaith Edwards, megis Pasiant Cenedlaethol Cymru, yr Eisteddfod Genedlaethol, traddodiadau’r Orsedd, y drafodaeth o ddramâu cynnar y mudiad drama, a’r dogfennu ar weithgaredd cwmnïau drama amatur. Dadleuir bod modd cysylltu’r amryw themâu yn ei waith a’u trafod yng nghyd-destun astudiaeth o’r anian perfformiadol yng nghyfansoddiad y Cymry.

Product Details

ISBN-13: 9781786830364
Publisher: University of Wales Press
Publication date: 04/27/2017
Sold by: Barnes & Noble
Format: NOOK Book
Pages: 240
File size: 1 MB

About the Author

Anwen Jones is a lecturer in Theatre Studies at Aberystwyth University.

Read an Excerpt

Perfformio'r Genedl

Ar Drywydd Hywel Teifi Edwards


By Anwen Jones

Gwasg Prifysgol Cymru

Copyright © 2017 Y Cyfranwyr
All rights reserved.
ISBN: 978-1-78683-036-4



CHAPTER 1

Rhagymadrodd Golygydd y Gyfrol

Anwen Jones


Yn 2008, cyhoeddodd Gwasg Gomer gyfrol deyrnged i Hywel Teifi Edwards o dan y teitl Cawr i'w Genedl: Cyfrol i gyfarch yr Athro Hywel Teifi Edwards. Ynddi, ceir casgliad o erthyglau gan arbenigwyr sy'n flaengar yn eu dewis-feysydd ac yn rhannu diddordeb Edwards yn y cyfnod hanesyddol a aeth a'i fryd; y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Dichon mai fel arbenigwr ar Gymru'r bedwaredd ganrif ar bymtheg yr adwaenir Edwards yn bennaf ac heb os nac onibai, mae ei afael ar y cyfnod hwnnw yn gadarn. Yn wir, mae'r gyfrol gyfarch yn dystiolaeth iddo osod conglfaen astudiaethau hanesyddol o bob agwedd ar y diwylliant a'r meddylfryd Cymraeg a Chymreig yn y cyfnod Fictorianaidd. Pan luniwyd y gyfrol, roedd Edwards yn wyneb cyfarwydd ar y cyfryngau, yn llais adnabyddus yn y wasg ac yn dal i weithio gyda'i egni arferol tuag at gyhoeddiadau pellach yn y Gymraeg. Erbyn heddiw, rydym wedi colli'r hanesydd ac wedi ein hamddifadu o gyfaredd ei berson a'i bersonoliaeth. Ysywaeth, nid cyfrol goffa na chyfrol gofiannol mo'r gyfrol hon.

Ysfa ganolog y gyfrol hon yw datgan ein hawl ar yr hyn a ddywedodd Edwards am ddrama, am theatr ac am berfformio yng Nghymru, ac yn y Gymraeg, a'i ddefnyddio i ysbarduno ymateb cyfredol, cyfoes a chyffrous i un o fyfyrdodau ysgolheigaidd mwyaf treiddgar yr ugeinfed ganrif o'r cyflwr a'r psyche Cymreig. Ysgrifennodd Edwards lawer, yma a thraw, ar y ddrama, y theatr ac ar berfformio yng Nghymru. Hyd yma, ni fu ymgais i gydlynu'r gwahanol agweddau ar y drafodaeth honno a'u dwyn ynghyd. Nid yw'r cyffro yn deillio yn gymaint o'r cyfraniadau gwahanol i'r gyfrol hon ond yn hytrach i'r gwaith a fu'n sail iddi – hebddo ni fyddai yma ddim.

Mewn adolygiad yn Golwg, yn 1990, ymatebodd Edwards i gynhyrchiad theatrig o Val gan Dyfan Roberts ac Yma o Hyd gan Mair Tomos Ifans. Roedd hi'n gwbl eglur i destun y dramâu yn ogystal â'u dull cyflwyniadol blesio'r adolygydd ac iddo brofi gwefr wrth wrando, clywed, gweld a gwylio; '[D]au actor yn llefaru dros harddwch perthyn, dros hunan-barch, dros ymrwymiad Cristnogol'. Wrth rheswm, adolygiad byr mewn cylchgrawn poblogaidd o noson o adloniant theatraidd, byrhoedlog a geir yma ac amhriodol fyddai gosod arno ormod o bwys yng nghyd-destun ehangach y swmp o waith ysgolheigaidd a gynhyrchwyd gan Edwards dros ddegawdau lawer. Eto, mae'r adolygiad teimladwy hwn yn bwysig yn nermau gweledigaeth beirniadol Edwards o hanes a chyflwr cyfredol ei genedl. Mae hefyd yn arwyddocaol yng nghyd-destun amcan ac uchelgais y gyfrol hon. Daw'r adolygiad â ni wyneb yn wyneb â'r ffaith bod y dramataidd, y theatraidd a'r perfformiadol o bwys yng ngolwg a phrofiad Edwards. Er nad oedd yn hanesydd y theatr na chwaith yn arbenigwr ar y ddrama, ysgrifennodd Edwards yn huawdl am y dramatig, y ddrama a'r theatr yng Nghymru mewn nifer o ddarlithoedd, erthyglau a chyfrolau. Ar wasgar, yma a thraw, mewn gweithiau megis Yr Eisteddfod (1976), Baich y Bardd (1978), Yr Eisteddfod Genedlaethol a Phwllheli 1875, 1925 a 1955 (1987), Codi'r Hen Wlad yn ei Hôl: 1850–1914, (1989), Llew Llwyfo: Arwr Gwlad a'i Arwrgerdd (1990), Codi'r Llên (1998), Gwyl Gwalia (2008) a The National Pageant of Wales (2009), ceir gweledigaeth dreiddgar o gyfraniad yr elfennau perfformiadol ar fywyd a phrofiad y Cymry i dwf a datblygiad hunaniaeth genedlaethol, ac i dwf a datblygiad y ddrama a'r theatr fel celfyddyd genedlaethol o bwys.

Mae'r adolygiad yn Golwgyn arwydd o gydnabyddiaeth Edwards o le drama, y theatr a pherfformio yn ei fywyd a'i brofiad ac ym mywyd a phrofiad y genedl – ffaith y gellid, yn rhwydd ddigon, ei cholli am nas cyflwynir gweledigaeth gyfansawdd ganddo o bwysigrwydd a chyfraniad y cyfrwng yn ei waith. Mae'r adolygiad hefyd yn dod â'r darllenydd wyneb yn wyneb â dryswch neu, efallai, ddatguddiad arall. Rhaid cyfaddef ei bod hi'n anodd cysoni agwedd ac ymdeimlad yr adolygydd hwn gyda'r hanesyddiaeth beiddgar a beirniadol sy'n nodweddiadol o gynnyrch ysgolheigaidd Edwards. Yn ôl y beirniad Simon Brooks, nodweddir astudiaeth Edwards o Gymru'r bedwaredd ganrif ar bymtheg gan ddau beth. Yn gyntaf, presenoldeb ymdriniaeth dreiddgar a thrylwyr o genedligrwydd o safbwynt ôl-oleuedig – peth tra anarferol, chwedl Brooks, o ystyried natur bragmataidd beirniadaeth llenyddol Gymraeg. Yn ail, fe'i nodweddir gan gydnabyddiaeth a dathliad o amlder y profiad Cymraeg. Sut felly mae dehongli gwerthfawrogiad Edwards, yn ei adolygiad, o'r weithred o berfformio ymlyniad rhamantus, os nad rhyfygus, wrth ddiwylliant cenedlaethol, Cristnogol, brawdgarol gyda'i feirniadaeth di-flewyn ar dafod o'r prosiect i hyrwyddo gwerthoedd goleuedig yng Nghymru fodern, ôl-Lyfrau Gleision? Bron nad ymddengys ei gyfaddefiad iddo deimlo, yn ystod orig fer y perfformiad, 'ar ei brawf gerbron dau a wyddai eu gwerth fel aelodau o hen genedl ac arni ddyletswydd i wneud ei rhan dros warineb a thegwch byw' yn anghyson â'i daerineb mai trwy, 'hybu ideoleg neilltuol yn enw Cymreigtod [y] cyfyngir ar y Cymreictod hwnnw'.

Wrth gloi ei adolygiad, dywed Edwards, 'Yr hyn y carwn ei nodi yw i mi, fel llawer un arall y noson honno ... brofi feitaliti ein diwylliant yn llifo drwof a theimlo i'r mêr pa mor enbyd fyddai trigo mewn gwlad heb y feitaliti hwnnw'. Mae'r clo hwn, i'm tyb i, yn datgelu llawn arwyddocâd y ddrama, theatr a pherfformio i Edwards ac yn esbonio sut y bu iddo drochi, dro ar ôl tro, hyd ei figyrnau, yn nyfroedd bas y ddrama a'r theatr yng Nghymru heb unwaith blymio'n llwyr i'r dwr a chyhoeddi gweledigaeth gyfansawdd, awdurdodol o'r maes. Dywedodd Edwards am un o arwyr ei astudiaethau hanesyddol, Llew Llwyfo, iddo fyw i berfformio a pherfformio i fyw. Mae ei astudiaeth yn cydnabod cyfyngderau'r math o adloniant gwerinol, myfïol a gynigiai Llew i'w gynulleidfaoedd eisteddfodol, eiddgar ac eto mae'n llawn edmygedd o'i sgiliau a'i fenter perfformiadol, ei allu i daflunio'i bersonoliaeth ar gefnlen ei genedl. Yr hyn a werthfawrogai Edwards yn hanes a pherson Llew Llwyfo oedd ei feitaliti a'i allu i rhannu'r cyfryw nerth ac egni carismataidd trwy weithgaredd creadigol, cymunedol, neu trwy berfformio i gynulleidfa. Yr un oedd y wefr a gafodd Edwards wrth gyfranogi yn y cyflwyniad theatraidd o Val ac Yma o Hyd. Yno, fe brofodd, fel aelod unigol o gynulleidfa luosog wefr feitaliti'r actorion a ddatguddiai, yn ei dro, wefr feitaliti'r diwylliant cymunedol roeddent yn ei ddathlu a chyfaredd perthyn i ddiwylliant cenedlaethol Cymraeg a Chymreig. Dyma, i'm tyb i, sydd wrth wraidd ei driniaeth aml ond anghyson o'r ddrama a'r theatr yng Nghymru – ysfa i afael yn y feitaliti sy'n deillio o weithred gymunedol o berfformio gyda ac i gynulleidfa, feitaliti y byddai ymdriniaeth hanesyddol, beirniadol trylwyr yn y traddodiad ysgolheigaidd, cyfrifol wedi ei llesteirio, os nad ei ddifa.

Pennaf nod y gyfrol hon yw archwilio a chloriannu dylanwad meddylfryd a gwaith Edwards ar ein hymwybyddiaeth a'n dealltwriaeth o bwysigrwydd y ddrama a'r theatr yng Nghymru fel agwedd ar weithgarwch celfyddydol, cenedlaethol ystyrlon. Hawlir rôl weithredol i Edwards yn y broses o fathu, datblygu a saernïo'r ddrama a'r theatr fodern yn sgil ei gyfraniadau amrywiol mewn meysydd eraill perthnasol a'i ymroddiad gwaelodol i werthfawrogiad o ddawn yr artist yn ei holl waith. Yn gyntaf, olrheinir trywydd llinyn arian sy'n ymwthio i'r golwg yn gyson yng ngweithiau amrywiol Edwards – dylanwad y dramatig, y ddrama a'r theatr ar ddatblygiad hunaniaeth genedlaethol y Cymry o drothwy'r bedwaredd ganrif ar bymtheg hyd at ganol yr ugeinfed ganrif. Yn ail, dangosir perthnasedd y cyfryw drafodaeth hanesyddol i astudiaeth o gyflwr presennol y ddrama a'r theatr yng Nghymru'r unfed ganrif ar hugain trwy gyfrwng ymateb creadigol awduron y cyfraniadau amrywiol yn y gyfrol i'w feddwl a'i waith am ddrama, theatr a pherfformio yng Nghymru fodern.

Mae'r cyfraniad agoriadol i'r cyhoeddiad hwn yn gosod cywair y gyfrol at ei gilydd, sef ymgais i ymateb i ddatganiadau, trafodaethau ac ysgogiadau Edwards am natur, twf a datblygiad y ddrama a'r theatr yn Ngymru gyda hyder llwyr yng ngadernid presenolrwyddd y presennol. Mae awdur y cyfraniad, Gareth Evans, yn dadlau bod trafodaethau a damcaniaethu deallusol am y ddrama a'r theatr yng Nghymru wedi cychwyn a chyniwair o dan gysgod gormesol y cysyniad o gyfreithloni; cysyniad a'n cymellodd i sefydlu llinyn cyswllt, neu'n hytrach, llinyn bogail rhwng drama a theatr ein gorffennol a chynnyrch a gweithgaredd dramataidd a theatraidd y presennol a'r dyfodol. Mae'r ysfa i hawlio a sicrhau dyfodol i'r agwedd hon ar greadigrwydd a chynnyrch diwylliannol Cymru, dadleua Evans, wedi arwain at gyplysiad diog o theatr a drama sydd, yn ei dro, wedi dibrisio natur hollbresennol y weithred theatraidd ar y naill law, a breinio sefydlogrwydd llinynol y ddrama ar ei wedd destunol ar y llaw arall.

Adleisia Evans y farn a fynegwyd eisoes yn y rhagymadrodd hwn, sef cydnabyddiaeth nad ysgolhaig theatr oedd Edwards ac nas bwriadwyd ei waith yn y maes fel astudiaeth awdurdodol o fath yn y byd. Yn hytrach, cydnabyddir ei brif gyfraniad gan Evans yng nghyd-destun ei ysfa a'i allu i ysbarduno ymchwil pellach yn y maes. Wrth drafod ei waith ar yr eisteddfod yng Nghymru a thu hwnt, dywedodd Edwards ei hun nad oedd ei ymchwil ond wedi agor cil y drws ar astudiaeth gynhwysfawr pellach, a ddeuai, efallai, pan syrth grawnsypiau'r sêr, chwedl Evans ac Aled Jones Williams! Dadleua Evans bod y prosiect i sefydlu a sefydlogi cysyniad awdurdodol o draddodiad ac arferiad theatraidd yn y Gymraeg wedi tueddu i ddehongli theatr fel drama ac i wadu, o ganlyniad, y perfformiadol. Dywed ymhellach taw dangos yn hytrach na dehongli a wnaeth Edwards a hawdd derbyn ei haeriad o feddwl am natur gyfareddol-ddisgrifiadol cyfrolau megis, The National Pageant of Wales, Codi'r Hen Wlad yn ei hôl: 18501914 a Codi'r Llen. Mae cyfraniad Evans yn dadlau o blaid datblygu estheteg beirniadol newydd i drin a thrafod y ddrama a'r theatr yng Nghymru, un a all gwmpasu a chroesawu'r amlhymarus. Breinio'r perfformiad a wna dadl Evans dros theatr queer, theatr a rydd y gorau i ddyfodoldeb o blaid ymroddiad synhwyrus i'r presennol, presennol sy'n dathlu'r ymdeimlad o gymuned a gaiff ei feithrin yn ystod gweithred berfformiadol. Nid yw, wrth rheswm, yn dadlau nad aeth y ddrama a'r theatr Gymraeg eto i'r afael â'r cysyniad a'r arfer o berfformio, ond yn hytrach, bod yma le a chyfle i ddatblygu synwyrusrwydd beirniadol newydd a fedrai ofyn, yn wastadol, o'r newydd, beth sy'n digwydd nawr? A nawr? A nawr?

Trwy ddathlu'r ffaith nas cynigiodd Edwards weledigaeth drwyadl, gyfansawdd o'r ddrama a'r theatr yng Nghymru ei gyfnod, na Chymru ei orffennol, ac na bu iddo chwaith ddarogan dyfodol sicr i'r ddrama a'r theatr yng Nghymru, mae Evans yn datgelu gwir natur a gwerth cyfraniad Edwards i'r maes. Yr hyn a wnaeth Edwards oedd cydnabod feitaliti'r cyfrwng, feitaliti a'i rwymai wrth y presennol yn gymaint yn nermau ei fethiant, neu ei wrthodiad, i'w ddehongli'n llawn, a'i lawn werthfawrogiad ohono ym moment ei brofi. Ei waddol i ninnau yw'r cwestiwn cyson a bair, wedi distewi ei lais a chilio ei bresenoldeb cyfareddol: beth sy'n digwydd i'r ddrama a'r theatr yng Nghymru nawr? A nawr? A nawr? Yn y nawr hwnnw, mae awr anterth y gyfrol hon.

Wrth drafod yr her o ddirnad ymarfer esthetig penodol ar sail tystiolaeth gweledol o berfformiadau a pherfformio'r ugeinfed ganrif gynnar yng Nghymru, cyfeiria Evans at y gyfrol unigryw, Codi'r Llen. Trafodir y gyfrol gan Evans o safbwynt y ddadl am freinio'r testun dros y perfformiad neu gynhyrchiad, ond y mae triniaeth Roger Owen o'r un gyfrol yn cyflwyno gweledigaeth herfeiddiol am ei arwyddocâd yng nghyd-destun gweledigaeth ac ymarfer Edwards fel hanesydd yn ogystal ag yng nghyd-destun gweledigaeth Evans o natur hanfodol bresennol y weithred theatraidd, neu, yng ngeiriau Owen, am arwyddocâd theatr yng nghyd-destun y modd y medrid dod i gwrdd â realiti'r presennol. Mae Owen yn derbyn dadl Brooks bod yna wrthdaro rhwng diddordeb Edwards mewn pynciau diwylliannol, amrywiol, prawf o'i werthfawrogiad o luosogedd ôl-oleuedig a'i driniaeth o'r cyfryw bynciau yn unol â dull dadansoddol hanesydd goleuedig da. Eto, dadleua Owen bod Edwards yn dewis trin pynciau y mae eu gafael ar y dychymyg yn gwrthweithio methodoleg ei driniaeth resymegol ohonynt. Dadleua bod ganddo ddiddordeb mewn perfformio, yn y celfyddydau ac mewn agweddau ar fywyd cyhoeddus, nodwedd sy'n datgelu rhyw ysfa ynddo i fod yn annheyrngar i'r traddodiad emperaidd-oleuedig.

Hanesydd yn ymddiddori mewn profiadau oedd Edwards, chwedl Owen, ond un na fynnai ddefnyddio dull ffenomenolegol o gyfleu ei ddiddordeb i'w ddarllenwyr rhag ofn llesterio'r berthynas honno. Mae ymdriniaeth Edwards o'r ddrama a'r theatr yn dystiolaeth o blaid dadl Evans bod yna dueddiad cyffredinol ymysg ysgolheigion i ddibrisio'r digwyddiad theatraidd ar sail y ffaith yr ystyrir testun yn dystiolaeth gadarn, oesol o natur a hanes y traddodiad perfformiadol yng Nghymru. Mae Owen yn cysegru swmp ei erthygl i'r gyfrol Codi'r Llen, a hynny am mai yma, dadleua, y cyflwyna Edwards rhethreg weledol amgen sy'n gwyro'r driniaeth o'r pwnc at y goddrychol, y ffenomenolegol a'r uniongyrcholbresennol. Trwy gydnabod a chyflwyno amwysedd anystywallt y ffotograff i'w ddarllenwyr, cydnabu Edwards rôl ddeongliadol, ddadlenol i hanesyddiaeth ddadadeiledig. Wrth gloi ei gyfraniad, mae Owen yn trafod haeriad Edwards nad oedd y gyfrol ond yn waddol gogleisiol i ysgolheigion y dyfodol mewn modd sy'n dwyn agwedd beirniadol Evans o'r elfen o ddyfodoldeb a welodd yntau ynghlwm â thrafodaethau am y ddrama a'r theatr yng Nghymru i gof. Awgryma Owen y dylid herio'r ddelwedd a baentia Edwards ohono fe'i hun, wedi iddo gyflwyno a chyflawni Codi'r Llen, yn syllu'n obeithiol i'r dyfodol, gyda darlun arall ohono'n hawlio cyfanrwydd gweledigaeth y gyfrol a'r ffotograffau rhwng ei chloriau am fod y chwarae llwyfan, yn uniongyrchedd eithaf ei gyflwyno, yn fodd i Edwards ei hun, yn gymaint ag i'r actorion yn ei ffotograffau, afael yn y math o lawenydd a ddeillia o ryddid anheyrngarwch.

Mae cyfraniad Ioan Williams yn cyflwyno gweledigaeth sy'n wrthgyferbyniol i gysyniad Owen ac Evans o wefr a phwysigrwydd y presennol theatraidd neu berfformiadol – dadl sydd, mewn difri, nid yn unig yn hawlio lle i ddyfodoldeb yn hanesyddiaeth y ddrama a'r theatr yng Nghymu, ond yn honni y dylid gwreiddio'r cyfryw ddyfodoldeb yn y gorffennol. Nid presennol sy'n amneidio tua'r dyfodol sydd o ddiddordeb i Williams, ond yn hytrach presennol sy'n llawn gydnabod y cyswllt hanfodol rhwng yr hyn a fu a'r hyn a fydd. Mae ymdriniaeth Williams o'r ddrama a'r theatr hefyd yn wahanol i'r eiddo Evans ac Owen a hynny am nad yw'n ysgaru elfennau gwahanol y cyfanwaith theatraidd mor bwrpasol ffurfiol ag y gwna'r ddau feirniad arall. Does dim dwywaith nad yw'n trafod y busnes o berfformio, a hynny ar raddfa eang ac mewn dyfnder, ond ni ddefnyddia fethodoleg ffenomenolegol wrth wneud. Gellid dadlau nad yw cyd-destun hanesyddol y drafodaeth yn hwyluso dadansoddiad o'r elfennau perfformiadol neu theatraidd ar weithgaredd y mudiad drama oherwydd tawedogrwydd y math o gofnodion ffotograffig a gasglwyd ynghyd yn y gyfrol Codi'r Llen. Boed a fo am natur ac ansawdd y dystiolaeth, yr hyn sydd wrth fodd Williams yw dadansoddi effaith a dylanwad gweithgaredd a gweithgarwch y mudiad drama ar ddiwylliant Cymru. Gwna hynny yn bennaf trwy archwilio trafodaeth rhwng deallusion ac ymarferwyr y ddrama a'r theatr yng ngwasg gyhoeddus y cyfnod.

Fe'n cyfeirir yn gynnar yn erthygl Williams at gysyniad y sosiolegydd Edward Shills, bod yna ddwy garfan ymysg deallusion y cyfnod modern, sef y sawl y mae eu gweledigaeth a'u hyfforddiant wedi ei selio ar gysyniad parhaol o gynnydd a'r sawl sy'n wynebu goblygiadau'r newid sydd eisoes wedi eu goddiweddu. Gosodir Edwards yn y categori cyntaf gan Williams a hynny ar sail ei wrthwynebiad i gysyniadau o gadwraeth a cheidwadaeth a oedd wrth wraidd ymdrech a llwyddiant y mudiad drama ac a ymgnawdolwyd i raddau helaeth ym mherson J. Tywi Jones, golygydd y Darian, gweinidog yn un o gymoedd y De a dramodydd parod ei wasanaeth i selogion y mudiad drama amatur. Ysgwydd yn ysgwydd ag Edwards, saif Saunders Lewis a D. T. Davies, cynrychiolwyr to newydd o raddedigion prifysgol, tra bod Jones, a Williams ei hun, mi dybiaf, yn ddiogel yng nghanol yr ail gategori. Llwyfanna Williams y drafodaeth ddwys a difyr rhwng arwr cadwraeth, Jones, ar y naill law, ac arwyr cynnydd, Lewis a Davies, ar y llaw arall. Wrth gloi'r drafodaeth, gwnaiff ymgais i rhesymoli a rhesymegu'r hyn a ddisgrifia fel tuedd Edwards i gymryd yn ganiataol mai'r math o gynnydd a gynigid gan Lewis a Davies oedd yr unig ddrws ymwared i genedl a wingai yn hualau diwylliant ceidwadol y capeli Ymneilltuol. Awgryma Willliams bod Edwards, yn yr 1990au, yn wynebu sefyllfa tra gwahanol i'r hyn a wynebai Jones, dros hanner canrif ynghynt. Bryd hynny, meddai Williams, nid oedd y frwydr yn erbyn seciwlariaeth a dwyieithrwydd eto wedi ei cholli. Gwahaniaeth hanfodol yn yr amgylchfyd diwylliannol, felly, oedd yn gyfrifol am fethiant Edwards i gydymdeimlo â safbwynt Jones, gwahaniaeth a amlygai ei hun yn gymaint yng nghyd-destun cyflwr y ddrama a'r theatr yng Nghymru ag y gwnai yng nghyd-destun statws crefydd a'r iaith Gymraeg. Wedi'r cyfan, erbyn cyrraedd degawd ola'r ugeinfed ganrif, roedd Saunders Lewis wedi gweddnewid statws a natur y ddrama a'r theatr Gymraeg mewn modd nas gellid ond ei ddychmygu ganol yr ugeinfed ganrif. Law yn llaw â cholledion yng ngwaddol ieithyddol a chrefyddol Cymru, daethai ennillion sylweddol yn nature ei bywyd celfyddydol a hynny yn ganlyniad i weledigaeth dramataidd Lewis fel y'i mynegir yn ei ddramâu a'i ysgrifau am y ddrama a'r theatr yng Ngymru ac Ewrop fodern.


(Continues...)

Excerpted from Perfformio'r Genedl by Anwen Jones. Copyright © 2017 Y Cyfranwyr. Excerpted by permission of Gwasg Prifysgol Cymru.
All rights reserved. No part of this excerpt may be reproduced or reprinted without permission in writing from the publisher.
Excerpts are provided by Dial-A-Book Inc. solely for the personal use of visitors to this web site.

Table of Contents

Rhagymadrodd Golygydd y Gyfrol - Anwen Jones Ymlaen mae Canaan: Dyfodoldeb yn Hanesyddiaeth y Theatr Gymraeg - Gareth Evans Codi’r Llen, Ffotograffiaeth a Hanesyddiaeth ‘Annheyrngar’ Hywel Teifi Edwards - Roger Owen Cadwraeth a Chynnydd yn y Mudiad Drama Cymraeg - Ioan Williams Chwarae Rhan yng nghynhyrchiad Nghymru Fydd - M. Wynn Thomas Perfformio cenedl y dychymyg: Iolo Morganwg a dechreuadau Gorsedd y Beirdd - Cathryn Charnell-White Yr Eisteddfod yng ngweithiau Hywel Teifi Edwards: parth ymreolaethol dros dro? - Rowan O’Neill Celfyddydau perfformiadol Cymru: Hanes newydd, Hanesyddiaeth newydd: Hywel Teifi Edwards a Phasiant Cenedlaethol Cymru, 1909. - Anwen Jones Mynegai

Customer Reviews