John Morris Jones

John Morris Jones

by Allan James

Paperback(Bilingual)

$33.00
Members save with free shipping everyday! 
See details

Overview

Born in Llandrygarn, Anglesey in Wales, Sir John Morris-Jones (1864–1929) was a teacher, scholar, and poet who wrote several foundational works on the Welsh language, including A Welsh Grammar, Historical and Comparative. This biography, written in Welsh, not only outlines Morris-Jones’s many to contributions to Welsh academia, but also draws on evidence found in his personal letters to shed new light on his family life.

Product Details

ISBN-13: 9780708324677
Publisher: University of Wales Press
Publication date: 02/15/2012
Series: University of Wales Press - Writers of Wales Series
Edition description: Bilingual
Pages: 384
Product dimensions: 5.40(w) x 8.40(h) x 1.00(d)

About the Author

Now retired, Allan James was a lecturer of Welsh at the University of Glamorgan.

Read an Excerpt

John Morris-Jones


By Allan James

Gwasg Prifysgol Cymru

Copyright © 2011 Allan James
All rights reserved.
ISBN: 978-0-7083-2467-7



CHAPTER 1

Cyfnod Cynnar


Rhan 1: Y Cefndir

Pan benderfynodd Cymdeithas y Cymmrodorion anrhydeddu John Morris-Jones 'in recognition of distinguished services to Wales', bu E. Vincent Evans yn gyfrifol am grynhoi sylwadau bywgraffyddol amdano a gyhoeddwyd yng nghofnodion y gymdeithas honno ar gyfer sesiwn 1919–20. Peth digon naturiol ar achlysur o'r fath yw creu cofnod o weithgarwch yr unigolyn a anrhydeddir fel bod modd diffinio'n fanylach yr hyn a olygir wrth 'distinguished services'. Yr un pryd, ceir cyfle i hel achau a gosod y person yn ei gyd-destun teuluol a chymunedol, cyfrifoldeb a dderbyniwyd gan olygydd cofnodion y gymdeithas. Ar wahân i'r hyn a gyflwynir gan Evans, ceir atodiad hunangofiannol tra diddorol a chryno, 'the editor having applied to Sir John Morris-Jones for a brief sketch of his career':

Fe'm ganed yn Nhrefor, Llandrygarn, Môn, ar y 17eg o Hydref 1864. Fy nhad oedd Morris Jones, mab hynaf John Morris, Penhafodlas, Llanrug. Er i'm taid farw'n gymharol ieuanc, fe gafodd fy nhad addysg dda yn ol manteision yr oes honno: bu yn y Bala dan Dr. Edwards, ac yn Borough Road, Llundain dan Dr. Cornwell. Bu'n cadw ysgol Frytannaidd Dwyran, Môn, a'r Gaerwen wedi hynny, cyn mynd i gadw siop yn Nhrefor, lle'm ganed i. Fy mam oedd Elizabeth, merch William Roberts, Tai Newyddion, Llanrug; yr oedd ef (sef fy nhaid) yn dipyn o fardd; ... Symudodd fy rhieni o Drefor i Lanfair yma ddydd Calan 1868, pan oeddwn i ychydig dros dair oed. Yma y'm magwyd i, ac nid oes gennyf fawr o gôf am Drefor.


Dyma bennu union ddyddiad ei eni yn Nhrefor ym mhlwyf Llandrygarn gan nodi i'r teulu symud o Drefor i Lanfair [Pwllgwyngyll] ddydd Calan 1868. Yn ôl y disgwyl, ychydig a ddywedir yma yn y 'brief sketch' a oedd yn ateb dibenion Evans, am hanes y teulu ac am ddylanwadau'r aelwyd.

Fodd bynnag, nid Vincent Evans oedd yr unig un i fynd ar ofyn Morris-Jones am dystiolaeth fywgraffyddol. Mewn llythyr at J. Gwenogvryn Evans, dyddiedig 1 Gorffennaf [1896], llythyr sy'n cynnwys ymdriniaeth lawnach o lawer â'r cyfnod cynnar hwn, ymddengys ei fod yn ymateb i gais cynharach gan ei gyfaill am hanes ei yrfa:

I have scribbled some notes which I only hope you can decipher. I really don't know what to say; ... But I have written very much more than you can use; so you may pick out anything you consider suitable and put it in proper shape.'


O ganlyniad i'r cais arbennig hwn, diogelwyd tystiolaeth sy'n datgelu agweddau pwysig ar fywyd teuluol Morris-Jones ar yr aelwyd yn Llanfair ac sy'n cynnig sylwadau ar ddylanwad ei rieni arno. Pwysig iawn yw tystiolaeth o'r math a baratowyd ar gais Vincent a Gwenogvryn Evans am fod y brasluniau cryno hynny yn cynnig darlun o'r cyfnod o safbwynt personol Morris-Jones ei hun ac yn cynnwys ei ddehongliad arbennig ef o arwyddocâd y gwahanol ddylanwadau teuluol.

Pwysleisiodd T. H. Parry-Williams un tro, wrth olrhain prif ddylanwadau ei fachgendod yntau mewn sgwrs ar helyntion 'Hen Lwybrau', fod llawer mwy i hanes cyfnod na'r hyn a gynhwysir o fewn cloriau Llyfr Lóg. Yn achos Morris-Jones, bu J. E. Caerwyn Williams yn gyfrifol am olrhain achau'r teulu mewn modd hynod drwyadl a dadlennol, gan fanylu ar weithgareddau a symudiadau cyndeidiau Syr John wrth drafod hanes ei rieni cyn iddynt ymsefydlu ym Môn. Mae'r ymdriniaeth gynhwysfawr honno nid yn unig yn olrhain achau'r teulu dros nifer o genedlaethau ond yn ychwanegu hefyd wybodaeth fywgraffyddol am nifer o'r prif gymeriadau ac yn trafod ymdrechion sawl un ohonynt i gael addysg dan amodau a oedd at ei gilydd yn hynod anffafriol. Ymddengys nad oedd y math hwn o ymchwil achyddol wrth fodd Morris-Jones ei hun a rhaid cydnabod, felly, y gymwynas arbennig a gyflawnwyd gan Caerwyn Williams. 'I have never troubled myself', meddai Morris-Jones, 'to find out how many more Morrises and Johns there are in line, as it does not seem any of them distinguished himself in any way.' Wedi dweud hynny, ceir ganddo amlinelliad moel o'r hyn a wyddai am achau'r teulu er nad oes yma, mewn llythyr personol, arlliw o'r difrifoldeb a'r manylder a gysylltir fel arfer â'i waith ymchwil swyddogol.

'Ieuan Amheurig ap Ieuan's name represents his pedigree to 3 generations. He is the eldest son of the late Morris Jones, of Llanfair pwll gwyngyll, – the eldest son of John Morris of Penhafodlas, Llanrug, the eldest son of Morris Jones, of Eithin Duon, Llanrug, the eldest son of John Maurice of Hafod, Llanrug, who moved thither from Dolwyddelan sometime about the middle of the last century.'


Gwelir, felly, nad yn Sir Fôn yr oedd ei wreiddiau a bod ei rieni yn hanu o Arfon – ei dad, Morris Jones, yn dod o Lanrug, a'i fam, Elizabeth Roberts, yn ferch Tai-newyddion yn yr un ardal. Ac eto, â Sir Fôn y byddwn bob amser yn cysylltu Morris-Jones, cysylltiad a grewyd yn wreiddiol pan symudodd y tad, Morris Jones, i Ddwyran yn athro ysgol. Wele fersiwn y mab o'r hanes:

My father was born in 1823, he was at school for a short time under Gwilym Padarn; but on his father's death he was obliged to go to work at the quarry to help his mother to support her 7 children wh: she couldn't do on Penhafodlas alone. After some years their circumstances improved & my father went to school again, & in 47 entered Bala College. He was afterwards for a short time at Borough Road Training College London; then he kept school at Dwyran and Gaerwen in Anglesey.


Fodd bynnag, fel yn achos cynifer o ieuenctid y cyfnod, bu raid i'r tad oresgyn nifer o anawsterau ymarferol cyn gallu manteisio ar unrhyw ddarpariaeth addysgol a oedd o fewn cyrraedd. Yn aml, byddai hynny'n golygu cefnogaeth neu hyd yn oed aberth teuluol, ac ychwanegwyd at broblemau Morris Jones pan fu farw ei dad, tadcu Syr John, yn wr ifanc 37 mlwydd oed. Yng ngeiriau Caerwyn Williams:

Bid a fo am hynny, pan fu farw ei dad yn 1836 ... gan adael gweddw a saith o blant, bu raid i Morris Jones, fel y mab hynaf, adael yr ysgol a mynd i weithio i'r chwarel. Fodd bynnag, gwellhaodd amgylchiadau'r teulu a chafodd yntau fynd i'r ysgol drachefn, ac yn 1847 aeth i ysgol y Bala at Lewis Edwards a John Parry, nid, wrth gwrs, yn yr adeilad yr ydym ni'n gyfarwydd ag ef, ond mewn dau dy gyferbyn â'r capel. Wedyn bu am gyfnod byr dan Dr. Cornwell yng Ngholeg Hyfforddi Borough Road, Llundain.

Ac eto, er gwaethaf pob ymdrech ar ran y myfyriwr ei hun ac o du'r teulu a fu'n ei gefnogi yn ei ymdrechion i dderbyn hyfforddiant priodol, ni pharhaodd yn hir iawn yn ei swydd fel athro ysgol. 'Am reswm anhysbys i ni,' meddai O. M. Roberts wrth drafod hanes y cyfnod, 'ymneilltuodd o'r alwedigaeth honno.' Wedi dweud hynny, roedd fersiwn Morris-Jones yn cynnwys eglurhad ar y newid cyfeiriad hwn: 'He soon found out that he had missed his vocation; he lacked the patience and power of exposition which go to make a teacher; and got to simply detest the work.' Y canlyniad fu iddo fynd yn gyfrifol am siop groser ym mhentref Trefor, Sir Fôn, yn 1852, lle y priododd ag Elizabeth Roberts yn 1863 ac y ganed Morris-Jones, y cyntaf anedig, yn 1864. Y cam nesaf oedd symud i Lanfair yn 1868. Dyna fyddai prif benawdau unrhyw gronicl ffeithiol o hanes y teulu, deunydd y 'Llyfr Lóg' teuluol. Yn ffodus, mae fersiwn Morris-Jones o'r hanes yn cynnwys hefyd fanylion diddorol a dadlennol am ei rieni, yn arbennig am ei dad, manylion sy'n cyfrannu at ddarlun teuluol llawer cyflawnach ac sy'n cynnig cipolwg ar rai o'r nodweddion hynny a etifeddwyd gan y mab ac a ddaeth yn amlwg gyda'r blynyddoedd.

Mae ymdriniaeth Morris-Jones â chymeriad ei dad, wrth reswm, yn cynnig detholiad o'r gwahanol nodweddion hynny a ystyrid gan y mab yn gynhenid deuluol ac yn ganolog i'w ddatblygiad personol ac addysgol. Daw Morris-Jones i'r casgliad, er enghraifft, iddo etifeddu dawn fathemategol ei dad: 'If I inherited anything from him it was a certain aptitude for mathematics which struck Lloyd (the Bishop) so much when I was at school.' Yn ychwanegol at hynny, trosglwyddwyd cariad y tad at ddarllen; roedd yn ddarllenwr brwd, a gallai droi at lyfrau ysgol y mab a'u gwneud yn fyw i'r plentyn wrth eu trafod fin nos. Ac eto, yng nghanol yr ymdriniaeth hon â'r dylanwadau penodol a ddetholir gan Morris-Jones, ceir gosodiad sydd o'r pwys mwyaf ac sy'n mynd at galon unrhyw ymgais i ymdrin â phersonoliaeth y mab. Meddai ymhellach am ei dad: 'But he was too straightforward and outspoken to be popular'. Er mai wrth drafod hynt a helynt y siop yn Llanfair y cyflwynir y gosodiad, roedd y sylw arbennig hwn yr un mor berthnasol mewn nifer o gyd-destunau eraill. Mae hi braidd yn eironig, wrth gwrs, nad yw Morris-Jones yn nodi'r cysylltiad â'i dad yn hyn o beth, sef ei fod yntau wedi etifeddu dull uniongyrchol ei dad o ymdrin â phroblemau ac unigolion, er iddo gydnabod arwyddocâd nifer o ffactorau eraill llawer llai tyngedfennol eu dylanwad. Roedd hon yn nodwedd amlwg yng nghymeriad John Morris-Jones ei hun, yn nodwedd a fu'n gyfrwng tanio aml i frwydr gyhoeddus yn ystod ei yrfa a hynny, ar brydiau, yn wyneb dadleuon digon dilys dros ddewis llwybr o gyfaddawdu ac ymdawelu. Ar y llaw arall, roedd y duedd ddadleugar hon yn gynnyrch ei ymlyniad diysgog a digyfaddawd wrth yr hyn a ystyrid ganddo'n gywir neu'n gyfiawn ac yn golygu, yr un pryd, mai'r unig ddewis gonest a derbyniol oedd condemnio ac ymbellhau oddi wrth yr annilys a'r gau. Rhydd Morris-Jones gryn bwys ar rinweddau'r cyfryw safbwynt neu athroniaeth a oedd, iddo ef, yn pwysleisio gonestrwydd cynhenid yr unigolyn a fynnai fod yn ffyddlon i egwyddorion sylfaenol er gwaethaf y gost a'r canlyniadau:

As to my father's characteristics, I think what must have impressed me more than anything else was his honesty ... He could not bear the thought of deviating a hair's breadth from what he considered the right thing; he weighed and measured his goods with absolute mathematical exactness. It used to be said that it did not matter whether you went yourself to his shop or sent your youngest child, both wd. be served exactly alike. But he was too straightforward and outspoken to be popular, and if it had not been for my mother's genial ways and interesting talk the business would probably never have come to anything at Llanfair. However his uprightness must have impressed my mind, and that none the less when it gradually dawned upon me that all men were not like him.


Er gwaethaf rhinweddau amlwg y tad, yn ôl Morris-Jones, felly, i'r fam yr oedd y diolch am geisio diogelu bodolaeth simsan y siop am mai ganddi hi yn hytrach na chan y tad yr oedd y bersonoliaeth groesawgar a chall a fyddai'n apelio at drwch y cwsmeriaid. Rhoddwyd prawf amlwg ar seiliau'r busnes pan ddaeth hi'n gyfnod sefydlu'r Ysgol Fwrdd yn Llanfair yn 1871, y tad yn gyhoeddus gefnogol i'r datblygiad ac o'r herwydd yn rhwym o gythruddo carfan iach o'i gwsmeriaid eglwysig yn ystod ymgyrch a fyddai'n rhannu'r gymuned. 'My father', meddai Morris-Jones, 'had an enthusiasm for education, and in 1870 when the school board fight came he took a prominent part in it at Llanfair, very nearly ruining his newly acquired business thereby, (almost all his customers then were Tories & churchmen).'

Soniwyd eisoes am gyfraniad allweddol y fam i ddatblygiad y siop ac am ymateb cadarnhaol y cwsmeriaid i'w dulliau a'i phersonoliaeth. Ond mae'r mab yn ychwanegu at yr wybodaeth hon:

Still if there is anything in the law of heredity I must have inherited from my mother what literary qualities I may possess. She was certainly endowed with some artistic & what might have been literary taste if it had been trained.


Barn Caerwyn Williams oedd fod Morris-Jones o bosib 'yn tueddu i fawrbrisio'r ddawn artistig, lenyddol y credai ei fod wedi ei hetifeddu gan ei fam ar draul dibrisio i ryw raddau y ddawn fathemategol yr oedd wedi ei hetifeddu gan ei dad'. Yn yr un modd, rhaid bod yn ofalus wrth geisio olrhain dylanwadau mewn dull sy'n rhy wyddonol bendant fel pe bai pob dim yn digwydd yn ôl deddfau rhyw broses gyfarwydd a mesuradwy. Nid felly y mae, fel y pwysleisia Caerwyn Williams:

Felly, nid oes raid i ni gredu mai'r gynhysgaeth a dderbyniodd gan ei fam a wnaeth Syr John yr artist, ac mai'r gynhysgaeth a gafodd gan ei dad a wnaeth y mathemategydd. Nes at y gwir, ond odid, fyddai credu mai'r ddwy gynhysgaeth gyda'i gilydd a'i gwnaeth gymaint â hynny'n well cyfuniad o artist a mathemategydd.


Ymddengys mai digon oeraidd oedd ymateb y plentyn ifanc i'w brofiadau addysgol cynharaf wedi i'r teulu symud i Lanfair: 'Cyn gynted ag y gallwn ymlwybran yno fe'm gyrrwyd i'r "Duchess of Kent's School" o fewn hanner milltir i'r pentref yma, a bûm yno am flwyddyn neu ddwy yn dechreu dysgu tipyn o Saesneg'. Mor debyg yw'r pwyslais yma am 'ymlwybran' tua'r ysgol i'r hyn a ddywed O. M. Edwards am ei atgofion cynnar yntau'n cychwyn allan i Ysgol y Llan, sef mai tuag 'yno, er mawr alar a cholled i mi, y gorfod i mi droi fy wyneb'. Mewn Ysgol Genedlaethol, felly, y dechreuodd Morris-Jones ar ei addysg ffurfiol, mewn ysgol yn Llanedwen a oedd yn dwyn enw mam y Frenhines Victoria. Wrth gynnig sylwadau ar gynefin MorrisJones, mae John Lasarus Williams yn manylu ar y llwybrau glas hynny yn ei ardal enedigol a fyddai'n elfen ganolog mewn unrhyw gronicl o'i fachgendod, llwybrau a fyddai wedi atseinio â chlych atgof, mae'n siwr, ymhen blynyddoedd:

Ffordd arall ddymunol oedd troi oddi ar y briffordd i'r chwith dros y lein heibio ffarm Pont Ronwy a Llwynogan nes y deuai at ei ysgol gyntaf, Victoria Cottages heddiw, Ysgol Genedlaethol neu Eglwysig y Duchess of Kent lle'r âi bob bore Llun a'i geiniog yn ei law i dalu am ei ysgol. Fe'i sefydlwyd gan y Duchess of Kent, mam y Dywysoges Victoria, a'i hagorodd hi yn 1832 pan oedd yn aros ym Mhlas Newydd mae'n debyg. Mae'n adeilad bach hyfryd, carreg felen a'r pyrth a'r cyrn simnai yn dangos ei henaint. Saif tua hanner milltir o'r pentref ar ffordd Brynsiencyn lle gwelir wal fawr Plas Newydd a godwyd yn 1802. O ddod yn ôl am Lanfair deuai at fynedfa fawreddog Plas Newydd, y Grand Lodge, yn Aber Braint. Ar y ffordd at y tolldy âi heibio lle arall, 'Llwyn' heddiw, lle gwrthodwyd gwerthu tir iddo i godi ty arno gan y stad.


Trwy drugaredd, byr fu ei arhosiad yn yr ysgol honno am iddo gael ei drosglwyddo i'r Ysgol Fwrdd (y bu ei dad yn brwydro mor daer drosti) pan agorodd honno ei drysau yn 1871. Mae'n amlwg fod hwyl y cyfarfod agoriadol wedi gadael argraff arbennig ar y plentyn a Morris-Jones ymhen blynyddoedd yn gallu cynnig adroddiad digon diddorol a dadlennol o'r achlysur:

Y mae gennyf frith gof am y 'cyfarfod llenyddol' cyntaf (debygaf fi) a gynhaliwyd yma, sef ar agoriad yr Ysgol Fwrdd yn Rhagfyr, 1871. Yr oedd Morgan Lloyd yn y gadair, a'r beirdd wedi dyfod yma o bob man, ac yn bwrw drwyddi mewn rhyw hwyl ryfeddol iawn i mi, na welswn ac na chlywswn erioed ddim o'r fath.


Er bod cyfres o gyfarfodydd tebyg wedi'u cynnal dros y blynyddoedd gan adael argraff ar y llanc ifanc, 'ni chyrhaeddodd yr un ohonynt', meddai, 'ogoniant y cyntaf'.

Yn yr Ysgol Fwrdd y bu'r plentyn tan 1876 ac, er nad oes modd manylu'n fanwl ar y gwahanol ddylanwadau addysgol a fu arno yn ystod y cyfnod hwn, mae peth tystiolaeth sy'n caniatáu i ni gasglu fod MorrisJones eisoes wedi dechrau dangos addewid. Mae un o'i lyfrau gwersi sy'n perthyn i'w flwyddyn olaf yn yr ysgol honno, yn dangos yn eglur fod ansawdd ei waith yn hynod foddhaol. Ymddengys, er enghraifft, fod y symiau i gyd yn gywir er na ellir bod yn sicr 'prun ai'r hyfforddiant yn yr ysgol ai'r hyfforddiant yn y cartref – a hwnnw'n seiliedig ar yr hyfforddiant yng Ngholeg Borough Road – a oedd fwyaf cyfrifol am hyn.' Ar sail y dystiolaeth hon, barn Caerwyn Williams oedd 'ei fod wedi dechrau dangos ei ragoriaeth ar ei gyfoedion yn bur gynnar'. Yn ychwanegol at hynny, mae gennym sylwadau MorrisJones ei hun ynglyn â'r gwersi cyfieithu a oedd yn rhan o'r cwricwlwm, agwedd ar y dysgu yr oedd y tad yn frwd iawn drosti:

At that time Welsh was tabooed in the Elementary schools. But my father had his own notions on that subject; he belonged to that old-fashioned class of schoolmasters who instinctively adopted the rational method of proceeding from the unknown to the known by utilizing Welsh for teaching English, and he must have been convinced of the educational value of a comparison of two languages. So he insisted upon my having translation to do from Eng into Welsh & vice versa, and lists of words in one language to supply with their equivalents in the other. So at a very early age I enjoyed the advantage of a bilingual education and learnt to write both English and Welsh.


Diau fod y profiadau hyn wedi gadael eu hôl ar Morris-Jones yr addysgwr pan fu'n cyfrannu, ymhen blynyddoedd, at wahanol drafodaethau ynglyn â chynlluniau dysgu yn ysgolion cynradd Sir Fôn a Sir Gaernarfon. Ar yr un pryd, mae'n bur sicr fod Morris-Jones, y disgybl, wedi elwa'n fawr ar yr hyfforddiant hwn wrth gwblhau ymarferion a fyddai wedi sicrhau ei fod, o'r cychwyn cyntaf, yn bur effro i rym a swyddogaeth gwahanol eiriau. Go brin y byddai MorrisJones wedi croesawu unrhyw gymhariaeth â'r hyfforddiant a dderbyniasai Iolo Morganwg, ond trwy gyfrwng ei berthynas â geiriadurwyr lleol mewn plwyfi cyfagos y daeth yntau'n ymwybodol yn gynnar yn ei yrfa o rym geiriau ac o'r budd a ddaw o ystyried geiriau cytras mewn gwahanol ieithoedd.


(Continues...)

Excerpted from John Morris-Jones by Allan James. Copyright © 2011 Allan James. Excerpted by permission of Gwasg Prifysgol Cymru.
All rights reserved. No part of this excerpt may be reproduced or reprinted without permission in writing from the publisher.
Excerpts are provided by Dial-A-Book Inc. solely for the personal use of visitors to this web site.

Table of Contents

Rhagair ii

Lluniau xi

1 Cyfnod Cynnar 1

2 Rhydychen: Coleg yr Iesu, Pont Magdalen a'r Dafydd 28

3 Y Bodleian, Syr John Rhys a'r Darpar Ysgolhaig 43

4 1890-1895 Dewis Gyrfa: John Morris-Jones a'r Agenda Ieithyddol 62

5 1895 Yr Athro: Bangor a Llanfair 86

6 Hynafiaeth yr Orsedd: Yr Ymchwilydd yn Herio Traddodiad 123

7 John Morris-Jones a'r Eisteddfod Genedlaethol: Athro'r Genedl 143

8 Caniadau John Morris-Jones (1907) 161

9 The Nationalist a'r 'Macwyaid' (1907-1911) 179

10 1911-1918 Y Beirniad, y Gramadegydd a'r Rhyfel Byd Cyntaf 194

11 1918-1925 Taliesin, Ffrainc ac America 221

12 1925-1929 Cerdd Dafod a'r 'Sant': Diwedd Cyfnod 252

Nodiadau 286

Mynegai 315

Customer Reviews