Cyfan-dir Cymru: Ysgrifau ar Gyfannu Dwy Lenyddiaeth Cymru

Cyfan-dir Cymru: Ysgrifau ar Gyfannu Dwy Lenyddiaeth Cymru

by M. Wynn Thomas

NOOK Book(eBook)

$24.49 $38.51 Save 36% Current price is $24.49, Original price is $38.51. You Save 36%.

Available on Compatible NOOK Devices and the free NOOK Apps.
WANT A NOOK?  Explore Now
LEND ME® See Details

Overview

Dyma gasgliad o ysgrifau sy’n archwilio rhai o’r dolennau cyswllt cymhleth a chyfoethog rhwng diwylliannau llên Cymraeg a llên Saesneg Cymru dros ganrif a mwy. Mae’r testunau a drafodir yn amrywio o bynciau cyffredinol (tarddiad y syniad fod y Cymry yn genedl gapelog; delweddau Cymru o Ewrop; ei hagwedd at y Taleithiau) i ddadansoddiadau manwl o weithiau unigol (Gwaed yr Uchelwyr; Ymadawiad Arthur); ac astudiaeth o awduron sydd wedi eu hanwybyddu i raddau helaeth (Pennar Davies; Alun Llywelyn-Williams).

Product Details

ISBN-13: 9781786831002
Publisher: University of Wales Press
Publication date: 11/15/2017
Series: Y Meddwl a'r Dychymyg Cymreig
Sold by: Barnes & Noble
Format: NOOK Book
Pages: 304
File size: 514 KB

About the Author

M. Wynn Thomas is Professor of English and Emyr Humphreys Professor of English at Swansea University. He is a Fellow of the British Academy and of the Learned Society of Wales, and the author of twenty books on the two literatures of Wales and on American poetry.

Read an Excerpt

CHAPTER 1

Gwreiddiau'r Syniad o Genedl Anghydffurfiol

'Standing out pre-eminently as the most remarkable phenomenon in the National life of Wales during recent years', meddai W. George Roberts yn hyderus ym 1903, 'is the overwhelming, almost magical, power of Nonconformity.' Er i haneswyr diweddar fwrw amheuaeth ar y syniad bod y Cymry'n genedl drwyadl gapelog yn Oes Fictoria – dengys yr ystadegau nad oedd y mwyafrif o'r boblogaeth yn tywyllu drws yr un capel, heb sôn am ddod yn aelodau ymroddgar, hyd yn oed pan oedd Anghydffurfiaeth yn ei hanterth – deil yn wir bod yr ymwybyddiaeth o Gymreictod yn y cyfnod hwnnw'n annatod glwm â'r ymdeimlad o berthyn i Genedl Anghydffurfiol ac ategir hynny gan sylwedyddion y tu hwnt i Gymru ei hun yr adeg honno. Felly, ar waethaf gafael ddramatig gynyddol gwleidyddiaeth radical yr enwadau Anghydffurfiol yng Nghymru yn negawdau olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg, a disgleirdeb gyrfaoedd y sêr ifainc T. E. Ellis a David Lloyd George, medrai Cymru Fydd ddatgan yn hyderus a chredadwy am Gymru ym 1890 mai 'Crefydd ydy anadl ei bywyd, crefydd heb wawr gwleidyddiaeth arni.'

Ac eto, ymhen chwarter canrif yr oedd crefydd yng Nghymru yn amlwg ar drai, ac un wedd amlwg ar fywyd deallusol Cymru gydol yr ugeinfed ganrif oedd ymosodiad ffyrnig awduron dylanwadol a haneswyr parchus fel ei gilydd ar gymdeithas gapelog a chrefyddgar y gorffennol. Ar un olwg bwysig yr oedd y gwrth-ymateb hwn yn un ymryddhaol ac iach, a llwyddwyd yn ei sgil i sicrhau darlun mwy cywir, cyfan ac amlweddog o'r Gymru a fu. Ond ar yr un gwynt, yr oedd nifer o'r ymosodiadau a gaed ar y gyfundrefn Anghydffurfiol hwythau'n unllygeidiog ac yn annheg, fel y nodwyd yn fachog gan Saunders Lewis ym 1965 – a prin y medrir ei gyfrif ef yn apolegwr y capeli!

The religious revival of the eighteenth century made Wales, for a century and a half, a Nonconformist and Calvinist community. There are historians and critics who are rather sorry about this. Nonconformism is in sad and sullen retreat and Calvinismis almost a dirty word.

For English people of the upper-middle class – that is, the literary English – both Nonconformist and Calvinist have been rather smelly lower class attributes since the eighteenth century. That is the gulf that divides nineteenth-century Welsh literature from English.

Ysywaeth, yn ystod yr ugeinfed ganrif caewyd y bwlch hwnnw rhwng llên Cymru (yn y ddwy iaith) a llên Lloegr yn hyn o beth, a phrin iawn oedd yr awduron a'r deallusion hynny a geisiai achub rhywfaint ar gam y capeli. Yr eithriad pwysicaf yn eu plith, yn ddi-os, yw'r nofelydd nodedig Emyr Humphreys. 'To understand a nineteenth-century Welshman', ysgrifennodd un tro, 'and indeed for a twentieth-century Welshman to understand himself, it is essential to know to which denomination or religious sect his immediate ancestors belonged.' Ystyria Emyr Humphreys ei hun fel nofelydd yn ddisgynnydd William Williams, awdur Theomemphus, yn ogystal ag yn storïwr yn llinach awdur anhysbys y Mabinogi. Yr oedd Diwygiad Methodistiaid y ddeunawfed ganrif, meddai, yn fodd i greu 'dyn newydd', a'r gweddnewidiad hwnnw a'i gwnaeth hi'n bosibl, maes o law, i Gymru ymrithio'n genedl newydd.

* * *

Fel y gwyddom yn dda, esgorwyd ar y genedl newydd honno, y Genedl Anghydffurfiol, tua chanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, pan ymunodd y Methodistiaid – y newydd-ddyfodiaid grymus a'r Anghydffurfwyr anfoddog hynny – ag enwadau'r hen Sentars er mwyn gwrthweithio canlyniadau echrydus Brad y Llyfrau Gleision. Yr oedd modd, wrth gwrs, i'r enwadau traddodiadol olrhain eu hanes yn ôl i John Penri ac i wroniaid ffydd yr ail ganrif ar bymtheg, gan gynnwys sylfaenwyr Llanfaches. Ond ymylol, ar y gorau, fu dylanwad yr enwadau cynnar hynny ar Gymru tan i Ddeddf Taenu'r Efengyl, a basiwyd gan Senedd Cromwell ym 1650, awdurdodi carfan rymus o bregethwyr Piwritanaidd i buro'r Eglwys yng Nghymru. Gwnaed hynny drwy gael gwared o nifer o'r hen offeiriaid ceidwadol a gosod gweinidogion newydd, selog dros achos y Piwritaniaid, yn eu lle. Gwyddys yn dda am enwau'r amlycaf o'r 'Profwyr' hyn –Walter Cradoc, William Erbery, Vavasor Powell – ac, wrth gwrs, am y mwyaf ohonynt o lawer, Morgan Llwyd, a oedd yn Annibynnwr. Mae athrylith Llwyd wrth drin profiadau ysbrydol ac fel llenor crefyddol yn gyfarwydd inni i gyd. Ond nid ar y gweddau hynny ar ei yrfa a'i waith yr wyf am ganolbwyntio yn yr ysgrif hon, ond yn hytrach ar y cyfraniad gwerthfawr ond anfwriadol a wnaeth i ddatblygiad y Genedl Anghydffurfiol, a hynny ddwy ganrif ar ôl ei farw.

Prin, mae'n wir, y medrwn ni sôn am 'hunaniaeth genedlaethol' yn yr ystyr fodern wrth ystyried cyfnod Morgan Llwyd ei hun. Saffach, efallai, fyddai cyfeirio'n hytrach at 'hunaniaeth ethnig', gan fabwysiadu awgrym yr ysgolhaig Anthony Smith. Y mae ef wedi gwahaniaethu'n fras rhwng dwy farn gyfoes gwbl groes i'w gilydd ynghylch ymwybyddiaeth cymuned o fod yn genedl. Mynna un garfan fod yr ymdeimlad o berthyn i genedl yn brofiad hynafol, oesol, a amlygwyd yn gyson ar hyd y canrifoedd. Ond mynna'r garfan arall mai cysyniad diweddar yw'r cysyniad o wladwriaeth genedlaethol. Cynnyrch cyfalafiaeth ddiwydiannol, cyfundrefn weinyddol wladwriaethol, y cyfryngau torfol ac iwtilitariaeth secwlar ydyw cenedl. A phan fydd cenedl fodern yn honni ei bod hi wedi ei gwreiddio'n ddwfn yn y gorffennol, a bod ganddi draddodiad cyfoethog hynafol yn gefn iddi, yna rhamantu amdani ei hun yn unig y mae.

A beth yw barn Anthony Smith am hyn? Mae'n cytuno mai cysyniad modern yw'r wladwriaeth genedlaethol. Ondmae hefyd yn argyhoeddedig bod nifer o nodweddion pwysicaf cenedligrwydd i'w canfod hyd yn oed yng nghymunedau'r hen fyd. Y ddolen sydd, yn ei farn ef, yn cydio'r hen fyd wrth y byd modern yn y cyswllt hwn yw'r ymwybyddiaeth sy'n gyffredin i'r ddau o berthyn i 'ethnie', neu lwyth arbennig o bobl. A'r nodweddion sy'n perthyn i hanfod pob ethnie yw ei fod yn cael ei lunio a'i gynnal drwy gyfrwng myth, symbol a sawl dull o gyfathrebu. Wrth i'r rhain gydblethu a chydweithio maen nhw'n cydio'r boblogaeth yn un ac yn creu ymwybyddiaeth o 'berthyn' sydd yn ddigon cryf i oroesi pob math o droeon mewn hanes. Felly, ym marn Anthony Smith, drwy fod myth a symbol yn ymadweithio (hynny yw, interact) mae ethnie yn parhau i ddatblygu, ac yn wir i newid, dros y canrifoedd heb fyth golli yr ymdeimlad o hunanbarhad. Y clwm creiddiol yma rhwng myth a symbol yw'r hynmae Smith yn ei alw yn 'mythomoteur', a'rmythomoteur hwnnw fydd, i bob pwrpas, yn gyrru cymuned yn ei blaen o oes i oes.

Fy awgrym innau, yn yr ysgrif hon, fydd bod ysgrifeniadau Morgan Llwyd wedi bod yn fodd pwysig i alluogi 'mythomoteur' y gymdeithas y ganed ef ynddi – sef y Gymru draddodiadol, geidwadol, uchelwrol – i ddatblygu i gyfeiriadau chwyldroadol o newydd. Ac ymhen hir a hwyr, arweiniodd hynny at ymffurfiad Cymru newydd, CymruAnghydffurfiol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Yr hyn a'i galluogodd ef i gyflawni'r swyddogaeth hon oedd ei fod ef ei hun wedi cael y profiad o groesi'r bont rhwng yr hen fyd a'r byd newydd. Fe'i ganed yng Nghynfal, ym 1619, o fewn tafliad carreg i'r man lle gwelir yn awr bwerdy niwclear Trawsfynydd. Yr oedd ei deulu yn perthyn i ddosbarth y mân uchelwyr a oedd wedi bod yn gyfrifol, ers marwolaeth y Llyw Olaf, am gynnal y traddodiad barddol ac am warchod yr hen werthoedd diwylliannol. Cafodd Morgan Llwyd ei hun ei drwytho yn y gynghanedd, ei hyfforddi yn hanes chwedlonol y Brutiau, a'i ddysgu sut i adnabod llinach ac i olrhain achau. Ond yna, ac yntau yn bymtheg mlwydd oed, symudodd i Wrecsam yng nghwmni ei fam, a chamodd ar ei union i fyd cwbl estron, cymdeithas gyfoes y ffin. Yno, am y tro cyntaf, fe'i gwefreiddiwyd gan bregethau tanbaid yr efengylwyr Piwritanaidd. Ac yno, wrth wrando ar un o bregethau'r Cymro Walter Cradoc, profodd dröedigaeth ysgytwol, ac fe'i hargyhoeddwyd yn syth, mae'n bur debyg, fod yn rhaid iddo rannu'r gwir efengyl â'i gydwladwyr annwyl yn ddiymdroi, cyn ei bod hi'n rhy hwyr. Yn y modd hwn, ceisiodd ailgyfannu ei fyd ef ei hun, drwy gydio Cynfal wrth Wrecsam, megis. Ac wrth iddo wneud hynny, gweithiodd bont yn ddiarwybod rhwng yr hen Gymru yr oedd ei gydwladwyr yn dal yn gaeth iddi a'r Gymru newydd a fyddai'n araf ymffurfio yn ystod y ganrif a hanner a oedd i ddilyn.

* * *

Medrwn ddechrau deall y dulliau a fabwysiadwyd ganddo wrth sylwi ar un manylyn bach yn ei lythyr at Richard Baxter, cymedrolwr a oedd yn un o gewri mudiad amlweddog y Piwritaniaid. 'Sr', meddai Morgan Llwyd mewn llythyr a anfonodd ato, 'I hope you are far from disdaining the day of small things (as Augustin the monke under the oake did the Welsh).' A fyddai Baxter wedi deall y neges? Byddai, ond heb lawn amgyffred yr ergyd. Oherwydd, yr oedd y frawddeg yn llawn cyfeiriadaeth gyfrin, gynnil at y cwlwmcymhleth o fyth a symbol a gynhaliai'r ethnie, sef llwyth y Cymry, yr oedd Llwyd yn perthyn iddo.

Gwelir yn syth, wrth gwrs, fod cyfeiriad at Ddewi Sant yn ymhlyg yn yr ymadrodd 'the day of small things'. CredaiMorgan Llwyd nad oedd Dewi i'w ystyried yn offeiriad yn Eglwys felltigedig Rhufain. Yn hytrach, cynrychiolai Dewi burdeb bywyd ysbrydol yr eglwys gynnar, a oedd wedi ei gwreiddio'n ddwfn yn nhir Cymru, cyn iddi gael ei dadwreiddio'n greulon gan Awstin Sant, y llysgennad a yrrwyd gan y Pab (tua AD 603) gyda'r bwriad o orfodi'r Brytaniaid, fel y Sacsoniaid, i ymuno ag Eglwys Rufain. Yr oedd Morgan Llwyd yn ymwybodol iawn mai mudiad trwyadl Seisnig oedd Piwritaniaeth yn ei gyfnod ef, ac mai agwedd ddirmygus oedd agwedd yr arweinwyr yn Llundain at y Gymru fach a ymddangosai mor bellennig, mor gyntefig, mor adweithiol ac mor gibddall o anwybodus. Onid oedd Walter Cradoc ei hun wedi ymbil ar y Senedd yn Llundain: 'And what if you should spend one single thought upon poor contemptible Wales? It's little indeed and as little respected.'

Ymdrech oedd sylw Llwyd yn y llythyr at Baxter, felly, i droi'r rhagfarn nawddoglyd honno ben i waered. Awgrym beiddgar Morgan Llwyd oedd mai ei bobl ef, yr hen Frytaniaid megis Dewi Sant a'i debyg, oedd Piwritaniaid gwreiddiol gwledydd Prydain. A sut y llwyddodd Llwyd i ddod i'r casgliad hwn? Drwy addasu, neu arallgyfeirio, hen dybiaeth chwedlonol y Cymry fod yr Efengyl wedi eu cyrraedd nid o gyfeiriad Rhufain ond yn syth o Balestina, am ei bod hi wedi ei chludo yma gan Joseff oArimathea. Felly, yr oedd Dewi Sant a gweddill y Saint Celtaidd yn ddisgynyddion uniongyrchol yr Apostolion eu hunain. Sylwir ymhellach fod Morgan Llwyd, drwy arallgyfeirio un o fythau creiddiol ei bobl, yn ei alluogi ei hun i gredu nad cefnu ar arferion ei gyndadau – sef yr arferion a ddysgwyd iddo yng Nghynfal – yr ydoedd wrth ymuno â'r Piwritaniaid yn eu byd Seisnig. Na, dychwelyd yr ydoedd at y ffydd hynafol, waelodol, wreiddiol yr oedd ei bobl ysywaeth wedi colli golwg arni. Ei fwriad wrth genhadu ymhlith ei bobl, felly, oedd eu galluogi hwy i adennill y trysor hynafol a gollwyd ganddynt.

* * *

Mae'n ddiddorol cymharu strategaeth Morgan Llwyd, wrth iddo addasu un o hen fythau creiddiol ei lwyth at bwrpas chwyldroadol newydd, ag ymdrechion lliwgar a doniol y gfir rhyfedd hwnnw Arise Evans i'r un cyfeiriadau yn yr un cyfnod. Yr oedd ef, hefyd, wedi ei eni a'i fagu ym mherfeddwlad Gymreig sir Feirionydd ac yna wedi ymfudo iWrecsam. Ac er nad oedd yn Biwritan uniongred, rhannai gred eiriasMorgan Llwyd fod Diwedd y Byd yn prysur agosáu, cred a oedd wrth gwrs yn gyffredin iawn yn y cyfnod cythryblus hwnnw. Rhys oedd ei enw go iawn, ond fe'i hailfedyddiwyd yn 'Arise' gan y Saeson yn sgil ei hoffter diarhebol o'r adnod yng Nghaniad Solomon, 'Arise, my love, my fair one, and come away'. Buan yr ymgartrefodd Arise Evans yn Llundain, ac yno y dechreuodd gyhoeddi cyfres o broffwydoliaethau. Yr oedd gwedd orffwyll ar y rhain o safbwynt y Saeson, ond o graffu drwy lygaid y Cymry ar ei ddatganiadau ynfyd, araf sylweddolwn nad rwtsh llwyr mohonynt wedi'r cyfan. Er mor hynod yr oeddent, fe'u gwreiddiwyd yn hen argyhoeddiad y Cymry mai hwy oedd trigolion gwreiddiol Ynys Prydain a bod yr ynys gyfan yn eiddo iddynt hwy tan i'r Sacsoniaid ei dwyn hi oddi arnynt. Golygai hyn, meddai Arise Evans, mai disgynyddion yr hen Frytaniaid oedd trwch cenedl y Saeson, yr un fath â chenedl y Cymry, a bod y ddwy genedl yn dal yn ddarostyngedig i'r hen eglwysi llwgr – Eglwys Rufain i ddechrau ac yna Eglwys Loegr – y gorfododd y Sacsoniaid iddynt eu derbyn. Abellach, meddai Arise Evans, yr oedd gan y Saeson, fel y Cymry, gyfle i ymryddhau o'u carchariad ysbrydol: 'Arise', oedd ei anogaeth i'r Saeson, 'that ye may as Britains be made partakers of the blessing with us, denying your English and Saxon interest, for surely the Saxon shall vanish, as God hath determined it by our prophecies. Therefore you brave Britains, stand up for Christ's kingdom.' Mae'r broffwydoliaeth ryfedd hon yn fynegiant pathetig o ddyhead y Cymry, a oedd bellach i bob pwrpas wedi cael eu traflyncu'n llwyr gan y Saeson yn sgil y Ddeddf Uno, am gyfle i dalu'r pwyth yn ôl i'w concwerwyr.

Unig obaith y Saeson o oroesi Dydd y Farn, yn ôl Arise Evans, yw drwy gydnabod eu Cymreictod cudd – hynny yw, rhaid i'r Saeson droi'n Gymry, gan mai'r Cymry a ddarostyngwyd ac a ddirmygwyd gan y Saeson gyhyd, fydd yn troi'n achubwyr yn Nydd y Farn, gan brofi'n arwyr ysbrydol wedi'r cyfan. 'God hath a special place for England', cyfaddefai Arise Evans yn raslon, dim ond i'r Saeson roi'r gorau i fod yn Saeson: 'for God is come in his promises; therefore now it is time for you English-men to consider it, (and not henceforth to despise, deride and scorn the Welch).' (ARH, 16) Yn ei ffordd ddryslyd ei hun, mae Arise Evans yn cyrchu at yr un nod â Morgan Llwyd. Mae'r ddau'n ceisio addasu un o fythau cynhaliol traddodiadol eu pobl, eu llwyth, er mwyn galluogi eu hethnie i oroesi cyfnod o newidiadau ysgubol, ysgytwol, a chwbl chwyldroadol.

* * *

Mae ambell ysgolhaig diweddar wedi awgrymu nad oedd Arise Evans yn ei lawn bwyll. Efallai'n wir. Ac eto yr oedd ganddo seiliau seicolegol a chymdeithasol eithaf cadarn i'w lith hynod. Yr oedd Rhys Evans yn byw yn y cyfnod pan oedd y Cymry bonheddig a oedd wedi tyrru i Lundain yng ngosgordd Harri Tudur ar ôl ei fuddugoliaeth ar faes Bosworth, ac a oedd wedi parhau i besgi drwy gydol teyrnasiad y Tuduriaid, yn ymwybodol iawn eu bod bellach wedi cael eu hisraddio a'u gyrru i'r cyrion gan y Stiwardiaid. O'r herwydd tanseiliwyd eu hyder mai hwy oedd y gwir 'Frytaniaid', ac fe'u gwnaed hwy'n ansicr iawn o'u hunaniaeth fel pobl. Gellir dehongli pamffledi rhyfeddArise Evans felly fel ymdrech (ofer) ganddo i adfer hen fyth cynhaliol ei lwyth drwy ei amwyso rhyw ychydig i gyfateb i'r sefyllfa argyfyngus oedd ohoni.

Yn wir, gwelir yr un nodweddion seicogymdeithasol yn ysgrifeniadau rhai Cymry Llundain eraill y cyfnod cythryblus rhwng dau frenin. Ym 1658, er enghraifft, cyhoeddodd Thomas Pugh ei bamffled British and Outlandish Prophesies, gwaith a honnai ei fod wedi ei wreiddio yn llyfrau cyfrin-ddoeth yr hen Feirdd Cymreig. Cyflwynodd Pugh ei lyfr i'r Gwir Anrhydeddus John Glynne, Arglwydd Brif Ustus Lloegr, ac yn ei ragymadrodd mynnai'r awdur ei fod yn cyhoeddi ei gyfrol 'in testimony of the innate affection I ever bore my Native Country.' A'r ffigwr allweddol yn llith Pugh oedd y 'dewin' Taliesin, 'the Angelical Child taken out of the water ... [who] tells youmany things that were in the beginning, asMoses doth.'

Yr oedd gan Arise Evans yntau ddiddordeb dwys yn newiniaeth Taliesin, y bardd-broffwyd chwedlonol. Mynnai Arise fod hanes yr Hen Frytaniaid a'r Iddewon wedi closio at ei gilydd yn gynnar ac wedi uno. Yn fuan ar ôl i Brutus ffoi o Gaer Droea a 'darganfod' yr ynys a enwyd ar ei ôl, mudodd llwyth o ddisgynyddion Japhet, mab Noah, hefyd i Brydain. Yr oedd eu ffydd grefyddol hwy mor aeddfed o ddatblygedig, 'that, as I may say so, we [y Brytaniaid / Cymry] were Christians above a thousand years before Christ was born.' (ARH, 6) Yr oedd y bobl hyn yn rhagori cymaint ar bobloedd eraill y cyfnod, fel bo Iesu Grist ei hun yn dewis gwraig o'u plith, gan ddefnyddio Joseff o Arimathea i wneud y trefniadau. Yng nghyfnod y Brenin Lucius yr oedd hyn, a ganed mab i'r wraig a'i enwi yn Gystennin Mawr, yr ymerawdwr a wnaeth y ffydd Gristnogol yn grefydd swyddogol holl Ymerodraeth Rufain. Cynhyrfwyd Satan yn enbyd gan y datblygiadau hyn, ac o'r herwydd dialodd ar y Brytaniaid drwy alluogi'r Sacsoniaid a'r Normaniaid i'w goresgyn yn llwyr. Dim ond y Cymry a lwyddodd i osgoi cael eu difa, a hynny drwy gilio i bellteroedd gorllewinol yr ynys a chael hyd yno i noddfa a'u galluogodd i amddiffyn eu hiaith a'u diwylliant. Deallodd Edward I hynny, ac felly ymosododd yn ddidostur o ffyrnig ar yr iaith, ond llwyddodd y Cymry a'r Gymraeg i oroesi ryswut ynghyd â 'so much of their writings as is needed to hold forth the truth for them.' (ARH, 15) Trysor mwyaf yr ysgrifeniadau hynafol hyn oedd y corpus a ddiogelai holl ddoethineb gyfrin yr Hen Feirdd Brytanaidd, doethineb a ddysgwyd iddynt gan Daliesin, Moses yr Hen Frytaniaid. Wedi buddugoliaeth Harri Tudur ar faes Bosworth a'i goroni'n frenin Lloegr, llwyddodd y Cymry o'r diwedd i adennill eu hen hunan-barch a'u bri ac i deyrnasu dros ynys Prydain yn ei chyfanrwydd unwaith yn rhagor. Byth ers hynny, 'Welch British blood, according to the Welch Prophecies, hath continued on the Throne of great Britain.' (ARH, 15)

(Continues…)


Excerpted from "Cyfan-dir Cymru"
by .
Copyright © 2017 M. Wynn Thomas.
Excerpted by permission of Gwasg Prifysgol Cymru.
All rights reserved. No part of this excerpt may be reproduced or reprinted without permission in writing from the publisher.
Excerpts are provided by Dial-A-Book Inc. solely for the personal use of visitors to this web site.

Table of Contents

Rhagair Y genedl grefyddol Gwreiddiau’r syniad o ‘Genedl Anghydffurfiol’ ‘Y Genedl Anghydffurfiol a Llên Saesneg Dadeni Cymru Fydd Seisnigrwydd Ymadawiad Arthur Chwarae rhan yng nghynhyrchiad Cymru Fydd Tri dysgwr Caethiwed Branwen Yr Efrydd a’r Almonwydden Cennad angen: barddoniaeth Waldo Williams Dau fydolwg Ewtopia: cyfandir dychymyg y Cymry Gwlad o bosibiliadau: Cymru a’r Taleithiau Dolennau Cyswllt Y werin a’r byddigions Monica Lewinsky a fi Vernon Watkins, Taliesin Bro Gŵyr Y Bardd Cocos ar gefn ei geffyl

Customer Reviews